Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023
Amser:
09.00 -
11.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13209
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Dr John Green, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dr Mark Jarvis, Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi Gastroberfeddol Dr Jeff Turner, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Gwasanaethau endosgopi: sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru, y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi GI ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru, y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi GI ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
3 Papur(au) i'w nodi
3.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr gan y Gweinidogion â chyfrifoldeb am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch diweddariadau o ran argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â iechyd meddwl.
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.5 Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.6 Llythyr at y Llywydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch diweddariad am ddileu hepatitis B a hepatitis C yng Nghymru
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.8 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol ynghylch cyfarfod rhwng Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU a Gweinidogion Iechyd y llywodraethau datganoledig.
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.9 Llythyr gan Gynghrair Gordewdra Cymru ynghylch ei flaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru
3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.10Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch y Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2023
3.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
5 Gwasanaethau endosgopi: trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
6 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.
7 Strategaeth y Pwyllgor
7.1 Adolygodd y Pwyllgor ei strategaeth a thrafododd ei flaenraglen waith.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad byr ar ganlyniadau ei adolygiad o’i strategaeth.
8 Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad monitro ac i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.